Anti-social behaviour at King Square
|
||
|
|
||
|
||
|
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sgwâr y Brenin |
||
|
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn King Square, Y Barri Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant, gyda phwy maen nhw, a beth maen nhw'n ei wneud yn dilyn problemau parhaus sy'n ymwneud â grwpiau o bobl ifanc yn ymgynnull yn King Square, Y Barri. Mae digwyddiadau diweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi achosi pryder i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr. Mae'r ymddygiad hwn yn annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef. Mae teledu cylch cyfyng ar waith, ac mae ymholiadau'n parhau i adnabod y rhai sy'n gysylltiedig. Siaradwch â'ch plant am sut y gallai eu hymddygiad effeithio ar eraill ac anogwch nhw i ymddwyn yn gyfrifol ac yn barchus o fewn y gymuned. Drwy gydweithio, gallwn helpu i gadw King Square yn lle diogel a chroesawgar i bawb.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







